Cymdiethas Cledwyn yn targedu'r Gorllewin
27.06.08
MAE argymhellion ar gyfer datblygu agenda polisi sy'dd wedi ei hannelu at ddatlblygu cymunedau cynaladwy, bywiog a dwyieithog yn cael eu awgrymu yr wythnos yma gan Gymdeithas Cledwyn.
Mae adroddiad newydd Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg yn cael ei cyflwyno i gynrychiolydd o Bwyllgor Gwaith y Blaid Lafur ar 27 ain o Fehefin. Mae'r adroddiad yn annog ffocws ar ddatblygu cymunedau sy'n gynaladwy, bywiog a chymunedau lle mae o leiaf dwy iaith.
Mae'r adroddiad yn cynnwys analysis hanesyddol o berfformiad y Blaid Lafur yn y Fro ( y seddi ar ochr gorllewinol Cymru lle mae yna gyfran helaeth o siaradwyr Cymraeg. ) Mae hefyd yn cynnwys syniadau ar sut i adnewyddu trefniant y Blaid Lafur yn yr ardal, yn cynnwys syniadau polisi wedi eu targedu at y Fro ac awgrymiadau yn ymwneud a'r iaith Gymraeg.
Mae yn annog y Blaid Lafur yng Nghymru i fabwysiadu polisi o'r gwaelod yn ymwneud a'r iaith, gan rhoi ffocws ar siaradwyr Cymraeg cyffredin a symud i ffwrdd o gyfieithiadau a dogfennau drud.
Ym mysg y syniadau craidd:
• Strategaeth i ddatblygu trefi glan y mor trwy defnyddio arian yr Undeb Ewropeaidd Cydgyfeiriant i greu cymunedau carbon niwtral cynaladwy sy'n annog busnesau i brynu cynnyrch lleol a fydd yn bwydo mewn i ymgyrch i greu twristiaeth cynaladwy o safon uchel.
• Ail feddwl yng nghlyn a phatrwm ffermio yn cynnwys arall gyfeirio trwy ddefnyddio sgiliau mecanyddol sydd eisioes gan y ffermwyr er enghraifft i gyflwyno technoleg adnewyddol.
• Cystadleuaeth wedi ei hariannu gan y Cynulliad i greu cynllun am dy cynaladwy am bris isel.
• Prosiectau i ddefnyddio tafarndai , neuaddau cymunedol ac eglwysi a chapeli i hybu diwylliant Gymreig ac i daclo y problem o economic inactivity.
• Ail drefnu trafnidiaeth i sicrhau fod cwmniau bysus yn rhedeg ar routes sydd ddim yn gwneud elw trwy gysylltu eu chytundebau i'r rheini sy'n gwneud elw.
• Sicrhau fod y Gymraeg yn iaith ry' chi'n gallu hawlio ei siarad mewn rhannau o Gymru e,e, pan y delio gyda'r henoed mewn rhannau o Gymru.
• Sicrhau fod y Gymraeg yn bosibl mewn rheithgorau yn yr amgylchiadau iawn.
• Symud i ffwrdd o gyfieithu dogfennau cymhleth ac ail gylchu'r arian ar gyfer prosiectau ar llawr gwlad.
Dywedodd ALBERT OWEN AS Cadeirydd yr adroddiad o Gymdeithas Cledwyn:
"Wrth baratoi´r adroddiad yma rydym wedi gwrando ar ofynion pobl sy n byw yn y Fro am yr angen am fwy o dai ffoddadwy , a gwell cysylltiadau trafnidiaeth yng nghefn glwad, hefyd yr angen i ddatblygu menter yng ngefn gwlad ac i ddatblygu bywyd cymunedol a diogelu traddodiadau lleol.
"Mae'r argymhellion heddiw wedi ei chrefftio i gyfeirio at y gofynion yma. Mae yn cynnig synaidau am greu ardal bywiog, cyfoethog, cynaladwy a dwyieithog. Gobeithio y bydd yn gosod sylfaen i'r deialog gyda pobl yn yr ardal yng nghlyn a sut allwn ni ddelio gyda'u anghenion a'u dyheuadau.
Dywedodd ELUNED MORGAN ASE Cadeirydd Cymdeithas Cledwyn:
"Mae'r adroddiad yma wedi ffocysu ar sut allwn ni gynnig atebion i rhai o'r sialensau mawr sy'n cael eu hwynebu mewn cymunedau yng nghorllewin Cymru. Yn arbennig rydym yn symud tuag at datblygiad cynaladwy a ddylai fod yn ffactor allweddol pan rydym yn trafod y sialensau yma, ac agenda ar lawr gwlad i ddatblygu'r iaith Gymraeg."
Cymdeithas Cledwyn Nod Cymdeithas Cledwyn yw:
1. Hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg o fewn y Blaid Lafur
2. Creu rhwydwaith o fewn i'r Blaid Lafur, fel y bydd pobl yn cael y cyfle i drafod materion gwleidyddol drwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy hyn i ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg ei hiaith i'r Blaid Lafur
3. Rhoi cymorth i aelodau'r Blaid Lafur yn yr ardaloedd hynny lle mae gan Blaid Cymru Aelod Seneddol neu Aelod Cynulliad.
Trwy:
1.Cyfarfod ymylol blynyddol yng nghynhadledd y Blaid Lafur
2. Anerchiad /trafodaeth blynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
3. Ysgol Haf blynyddol yng Ngholeg Harlech
4. Trefnu siaradwyr i annerch yr etholaethau hynny lle mae gan Blaid Cymru gynrychiolaeth yn y Senedd neu yn y Cynulliad.

