Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol

Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol

Amcangyfrifir fod yno 40 miliwn o bobl yn yr Undeb Ewropeaidd sy'n siarad iaith Ewropeaidd ar wahân i'r 11 o ieithoedd swyddogol / gweithiol yr Undeb Ewropeaidd. Cynhwysa hyn oddeutu 60 o gymunedau ieithyddol, sydd yn y Deyrnas Gyfunol yn cynnwys Cernyweg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban ac, wrth gwrs, y Gymraeg

Ers Ionawr 2000 fe fu Eluned Morgan ASE yn llywydd ar bwyllgor yr Senedd Ewropeaidd ar Ieithoedd Rhanbarthol a Lleiafrifol. Y mae hyn yn grwp traws - bleidiol (intergroup) o Aelodau Seneddol Ewropeaidd sy'n poeni am ieithoedd llai eu defnydd. Y mae'r 'intergroup' hyn, sy'n cynnwys siaradwyr Llydaweg o Ffrainc, Basgeg a Catalan o Sbaen a Frisian o'r Iseldiroedd, yn cyfarfod yn rheolaidd yn Strasbourg i drafod materion sy'n effeithio ar gymunedau ieithoedd lleiafrifol, ac i rannu cyngor ar arferion gorau. 

Y mae'r intergroup yn cydweithio'n agos gyda'r EBLUL - y Biwrô Ewropeaidd er Ieithoedd llai eu defnydd (www.eblul.org), i hyrwyddo creu polisïau UE o blaid ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol, i amddiffyn yr ieithoedd hyn a hefyd amddiffyn hawliau ieithyddol eu siaradwyr. Rhoddwyd nifer o gyflwyniadau gan yr EBLUL i'r intergroup - y mwyaf diweddar fu ar eu cynigion ar gyfer y Confensiwn ar ddyfodol Ewrop.

Y mae agendâu diweddar eraill intergroup wedi cynnwys cyflwyniad brosiect ymchwil y Senedd Ewropeaidd ar Ieithoedd Lleiafrifol a thrafodaeth ar sicrhau ariannu i ieithoedd lleiafrifol o gronfa yr UE.

Yn 2000, bu'r intergroup yn allweddol mewn sicrhau cynnwys ieithoedd lleiafrifol yn siarter hawliau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd. Bellach y mae erthygl 22 yn ymrwymo i barchu amrywiaeth ieithyddol.  Ers hynny, y mae'r Cyngor Ewropeaidd wedi wedi cynhyrchu Penderfyniad (Resolution) ar Amrywiaeth(diversity) Ieithyddol a Dysgu Ieithoedd, a 2001 oedd y 'Flwyddyn Ewropeaidd er Ieithoedd http://www.eurolang2001.org

Ar ddiwedd y flwyddyn honno, llwyddodd Eluned Morgan i sicrhau cwestiwn Llafar ynghyd ag amser am drafodaeth ar Ieithoedd Lleiafrifol ar agenda'r Sesiwn llawn (plenary) y senedd yn Rhagfyr 2001 yn Strasbourg. Dyma oedd y tro cyntaf mewn 8 mlynedd i ieithoedd lleiafrifol gael eu trafod gan y Senedd, a chanlyniad y drafodaeth hon oedd datganiad swyddogol gan y Senedd - 'Penderfyniad ar Ieithoedd Rhanbarthol a Llai eu Defnydd Ewropeaidd'. Galwodd  hyn am weithredu pendant gan y comisiwn Ewropeaidd a llywodraethau 

Ewrop i amddiffyn a gwarchod ieithoedd llai eu defnydd, tafodieithoedd a diwylliannau llai. Y mae Eluned yn ddiweddar wedi cyflwyno ('tabled') cwestiwn ysgrifenedig  i'r Comisiwn Ewropeaidd ynglyn â'i gynlluniau ar gyfer gwario'r
arian sydd wedi ei neilltuo ar gyfer ieithoedd lleiafrifol yn yr Undeb Ewropeaidd.